SL(6)188 – Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru godi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir i ymwelwyr tramor nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, oni bai bod yr ymwelydd tramor, neu'r gwasanaeth y mae’n ei gael, yn destun esemptiad rhag ffioedd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau i ddarparu esemptiadau rhag codi ffioedd mewn perthynas ag ymwelwyr tramor sy’n bresennol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig ond sy’n preswylio fel arfer yn Wcráin, yn ogystal ag esemptiadau ar gyfer aelodau o’u teulu, cymdeithion awdurdodedig a phlant awdurdodedig.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu, o ran ffioedd yr aed iddynt rhwng 24 Chwefror 2022 (y dyddiad y dechreuodd ymosodiad llawn Rwsia ar Wcráin) a'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, mewn cysylltiad â’r ymwelwyr tramor hynny:

§  os nad ydynt wedi eu codi eto, na chaniateir eu codi,

§  os ydynt wedi eu codi, na chaniateir eu hadennill, neu

§  os ydynt wedi eu talu, fod rhaid eu had-dalu.

Mae’r Rheoliadau hyn yn destun adolygiad gan Weinidogion Cymru cyn 1 Hydref 2022.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.


 

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y torrir y confensiwn 21 diwrnod (h.y. y confensiwn y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 30 Mawrth 2022.

Yn benodol, nodwn y canlynol yn y llythyr:

“Cafodd Rheoliadau 2022 eu gwneud a’u gosod cyn gynted ag yr oedd yn ymarferol ar ôl i ddrafft terfynol yr OS ar gyfer diwygio Rheoliadau Codi Tâl Lloegr gael ei rannu gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng nghanol mis Mawrth. Mae Rheoliadau 2022 Cymru wedi’u gwneud yn ddibynnol ar reoliadau Loegr fel bod yr un eithriadau yn berthnasol yng Nghymru ac o ganlyniad i natur frys y sefyllfa, mae’n ofynnol i Reoliadau Cymru ddod i rym lai na 21 diwrnod ar ôl eu gwneud.

Os cedwir at y confensiwn 21 diwrnod, mae risg y bydd ffoaduriaid o Wcráin sy’n dod i Gymru yn gorfod talu ffioedd y GIG am driniaeth, ond y bydd y sefyllfa yn Lloegr yn fwy ffafriol gan y bydd eithriad cyfreithiol ar waith yno eisoes. Bydd hyn yn arwain at sefyllfa o anghydraddoldeb annerbyniol rhwng ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru a’r rheini dros y ffin yn Lloegr ar adeg o argyfwng dyngarol."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

11 Ebrill 2022